Y TÎM

Varerijs Scipanovs
Prif Hyfforddwr
Valerijs yw hyfforddwr proffesiynol Clwb Ffensio Wrecsam. Yn hyfforddi ym mhob un o’r tri arf mae Valerijs yn cymryd gwersi unigol â ffenswyr iau ac hŷn. Mae ganddo dros 45 o flynyddoedd o ffensio gyda thros 30 o flynyddoedd hyfforddi ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n cynnig ysgogiad a thechneg i bob oedran o 7 i 77.

Amanda Roberts
Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Cadeirydd
Yn ogystal â gweithio fel Cadeirydd presennol y Clwb mae Amanda yn cynnig hyfforddiant cryfder a chyflyru i ffenswyr hŷn bob nos Wener. Mae Amanda yn dod â llwyth o arbenigedd a phrofiad fel rheolwr ffitrwydd Freedom Leisure i’r Clwb. Ers dechrau sesiynau mae gwelliant yn gallu y ffenswyr sy’n mynychu ei sesiynau yn amlwg. Er yn galed mae’r sesiynau hyn bob tro yn hwyl diolch i’w meddwl chwim a’i gwen hollbresennol.

Mike Evans Jones
Hyfforddwr Iau / Sabr
Cyn Is-Gapten tîm cyntaf Clwb Ffensio Prifysgol Durham, mae Mike yn ased mawr i’r Clwb. Mae Mike yn cynnig rhaglenni hyfforddi i athletwyr iau ac hŷn. Mae hwn yn cynnwys adnabod pwyntiau gweithredu a chynllunio llwybrau dysgu addas i ddatblygu sgiliau a medrau. Cyn hynny roedd Mike yn darparu hyfforddiant i gyrff eraill megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ysgol Moreton Hall a Phrifysgol Glyndŵr.
Cysylltwch â Ni