Am Glwb Ffensio Wrecsam

AMDANON NI

Lleoliad

Mae Clwb Ffensio Wrecsam yn cwrdd bob nos Wener (yn ystod y flwyddyn academaidd, sef mwy neu lai o fis Medi hyd at fis Mehefin) yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog, Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7UB.

 

Clwb Iau

Croeso i ferched a bechgyn rhwng 8 a 13 i ymuno â’n Clwb Iau, boed yn ffenswyr proffesiynol neu ddechreuwyr. Ffocws y Clwb Iau yw ar ddysgu ffensio ac hyfforddi yn defnyddio offer di-drydan (stêm) a thrydanol i ddysgu’r merched a bechgyn y sgiliau, disgyblaeth a rheolau ffensio a pharatoi’r rhai a ddymuna cystadlu. Does dim rhaid cystadlu i fod yn aelod o’r Clwb Iau.

Mae’r Clwb Iau yn cwrdd bod nos Wener rhwng 6.00 a 7.30.

 

Clwb Hŷn

Mae Clwb Ffensio Wrecsam yn croesawu bobl i ymuno â’r Clwb Hŷn fel dechreuwr neu ffensiwr profiadol ac yn eu tywys nhw trwy’r hyfforddiant i fod yn aelodau llawn o’r Clwb i fwynhau profiad i’r eithaf.

Mae’r Clwb Hŷn yn cwrdd bob nos Wener rhwng 7.30 a 9.00

 

Cwrs Dechreuwyr – 6 wythnos

Anelir cwrs dechreuwyr at ffenswyr heb unrhyw brofiad o’r gamp.

Amcanion y cwrs yw i ddysgu sylfeini ffensio: ymosod, amddiffyn, diogelwch ac i gyflwyno ffenswyr i ffensio cystadleuol.

Darperir offer ffensio i gyd sydd angen arnoch, ond rhaid  i chi dod â sgidiau pymps (dim sodlau du) a dillad llaes gyda throwsus cryf (dim trowsus byr) a diod. Cost y cwrs yw £30.00

Ymwelwyr

Croesawir ymwelwyr i’r Clwb. Felly os rydych chi yn yr ardal ac yn ffansio noson o ffensio, mae ‘na croeso i chi bigo draw i ymuno â ni. Disgwylir i ymwelwyr dod â’u hoffer eu hunain ond mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft ymwelydd o wlad dramor, gellir benthyg offer am y noson.

 

Hyfforddiant Cryfder a Chyflyru

Rhwng 6.15 a 7.15 mae’r Clwb yn rhedeg sesiwn cryfder a chyflyru ar gyfer ffenswyr hŷn. Mae’r sesiwn yn waith caled ond yn hwyl, a’r rhai sy’n mynychu’n rheolaidd yn ennill llawer allan ohono.

 

Ffioedd

Telir y ffioedd yn flynyddol ymlaen llaw neu drwy 12 o daliadau misol trwy archeb reolaidd fel a ddilyn:

 

 

Aelodaeth Cost Disgownt
Sengl £16.00 y mis  
Teulu (3 ffensiwr neu fwy) £16.00 y mis 25%
Blynyddol £196.00 y flwyddyn 12.5%
Cwrs dechreuwyr £30.00  
Ymwelydd £5.00 yr wythnos  

 

Adolygir y prisiau hyn yn flynyddol yng nghyfarfod blynyddol y Clwb ond gellir eu newid ar unrhyw bryd os oes newid sylweddol yng nghostau’r clwb.